Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017

Amser: 09.18 - 10.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4365


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Tystion:

Dr John Cox, Deisebydd

Terry Evans, Petitioner for P-04-575 Call in All Opencast Mining Planning Applications

Chris Austin, United Valleys Action Group

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 498KB) Gweld fel HTML (195KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-05-771 Ailystyried cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru a chefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn

·         Ystyried y ddeiseb ymhellach yng nghyd-destun y cyhoeddiad ar y gyllideb yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw; ac yn y cyfamser

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon y deisebydd a gofyn:

o   a fydd hi'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a chofnodion y grŵp rhanddeiliaid fel gofynnodd y deisebydd;

o   p'un ai a wnaed Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac a ellir rhoi hwn i’r Pwyllgor a’r deisebydd; ac

am ei barn ynghylch a fydd y trefniadau trosiannol arfaethedig yn sicrhau y bydd amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol cyn cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

 

</AI4>

<AI5>

2.2   P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb yn y dyfodol. 

 

</AI5>

<AI6>

2.3   P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Gwnaeth David Rowlands ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch yn marchogaeth ceffylau.

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: 

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a fyddai’n ystyried a ellid rhoi cymorth ychwanegol i ymgyrch “Dead? Or Dead Slow” Cymdeithas Ceffylau Prydain; ac

·         Ysgrifennu at Gymdeithas Ceffylau Prydain i ofyn eu barn am y ddeiseb a’r camau y credir y gellid eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i arafu wrth basio ceffylau a rhoi digon o le iddynt.

 

</AI6>

<AI7>

2.4   P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru i ofyn:

o   p’un ai fod unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi cael eu cynnal yn ystod 2017 i gydnabod tri chan mlwyddiant geni William Williams;

o   os na, pa ystyriaeth roddwyd i nodi’r garreg filltir hon yn ystod y flwyddyn; ac 

o   am eu barn am y cynigion a wnaed gan y deisebydd.

 

</AI7>

<AI8>

2.5   P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gofyn:  

·         iddi roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ôl cwblhau’r arolwg, a manylion unrhyw gamau pellach mae’n bwriadu eu cymryd i ddiogelu stociau cyllyll môr; ac

a oes unrhyw gamau wedi’u cymryd i ymchwilio i honiadau fod cynaeafu cyllyll môr wedi parhau ers cau’r bysgodfa.

 

</AI8>

<AI9>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI9>

<AI10>

3.1   P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-765 Cadw Canllawiau Presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol.

 

</AI10>

<AI11>

3.2   P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.

 

</AI11>

<AI12>

3.3   P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

o   atgynhyrchu’r tîm arbenigol rhanbarthol ar anhwylderau bwyta (tîm SPEED) sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru ac mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd; ac   

 

·         Ystyried cymryd rhagor o dystiolaeth mewn perthynas â’r ddeiseb maes o law yn dibynnu ar yr ymateb a geir.

</AI12>

<AI13>

3.4   P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i aros am yr ymateb i lythyr pellach y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â P-04-408 cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb, gan gynnwys y posibilrwydd o wahodd yr Ysgrifennydd Cabinet i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

</AI13>

<AI14>

3.5   P-04-648 Diwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am y diweddariad a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn diwedd tymor yr hydref, cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. 

 

</AI14>

<AI15>

3.6   P-04-683 Coed mewn Trefi

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am yr ymateb hwnnw a holi beth arall, yn eu barn hwy, y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen. 

 

</AI15>

<AI16>

3.7   P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Gwnaeth Janet Finch- Saunders ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae’n berchen ar macaw.

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at RSPCA Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebydd ac ar unrhyw gynnydd a wnaed trwy’u cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwnc hwn.

 

</AI16>

<AI17>

3.8   P-05-753 Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i holi am eu hymateb i’r materion a godwyd mewn gohebiaeth flaenorol gan y deisebydd.

 

</AI17>

<AI18>

3.9   P-05-756 Diogelu cerddoriaeth fyw yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, yn dilyn dadl y y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, gan nodi’r ymateb cadarnhaol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r ddeiseb.

 

</AI18>

<AI19>

3.10P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Adnoddau Naturiol Cymru er mwyn rhannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr a derbyn eu cynnig i ddiweddaru’r Pwyllgor erbyn dechrau mis Tachwedd ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chomisiynnu astudiaeth ddichonoldeb i’r opsiynau ar gyfer Ffordd Goedwig Cwmcarn.

 

</AI19>

<AI20>

3.11P-05-690 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Bu’r Pwyllgor yn ystyried sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a allai roi eglurhad clir i’r deisebydd a’r Pwyllgor am yr hyn sy’n ymddangos yn newid safbwynt ers y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn 2013-18 a’r ymrwymiadau a roddwyd gan ei ragflaenydd bod cynllun i ail-wynebu’r ffordd ar y gweill. 

 

</AI20>

<AI21>

3.12P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi ymateb i bryderon y deisebwyr, a’i bod hi’n anodd cymryd camau pellach yn sgil diffyg cysylltiad â’r deisebydd. 

 

</AI21>

<AI22>

3.13P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid

Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

</AI22>

<AI23>

4.1   P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd ochr yn ochr â chynrychiolwyr deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig.

 

</AI23>

<AI24>

4.2   P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Grŵp Gweithredu United Valleys a deisebydd P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf.

 

</AI24>

<AI25>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

</AI25>

<AI26>

6       Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol

Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth y sesiwn dystiolaeth flaenorol a nododd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y materion a godwyd gan y deisebwyr.

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>